Y Tîm

Helpu chi a'ch staff i rhoi Sglein ar eich gwaith!

Huw Thomas - Partner

Mae Huw yn angerddol am wrando a chyfathrebu ag eraill, meithrin perthynas a helpu pobl i ddatblygu. Sefydlodd Huw Sglein yn 2005 gyda Sarah Mair achos roedd yna fwlch am ddysgu sy’n ysgogi, yn afaelgar ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar unigolion a'u sefydliadau. Mae Huw yn dod â synnwyr o antur ac egni i bob sesiwn a gall hwyluso yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog. Mae trawsnewid profiad pobl o ddysgu a datblygu yn dod â boddhad mawr iddo ac mae’n ffynnu ar wneud cyswllt â phobl yn unigolion ac yn grwpiau.

Pan nad yw'n gweithio, mae Huw yn mwynhau rhedeg, beicio a mynydda. Mae wrth ei fodd yn gwthio a herio ei hun ac mae wedi cwblhau sawl hanner marathon a marathon, wedi beicio pellter hir yn Iwerddon ac wedi dringo a theithio'n helaeth yn y DU a thu hwnt. Mae'r gweithgareddau hyn yn rhoi iddo deimlad o gyflawni, persbectif a chysylltiad â phobl, diwylliannau a lleoedd mewn modd ystyrlon a chofiadwy.

Sarah Mair - Partner

Angerdd Sarah yw gweld pobl yn datblygu, yn dysgu ac yn mwynhau'r daith. Sefydlodd Sglein, gyda Huw, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd rydyn ni'n dysgu yng Nghymru, nid yn unig trwy allu hwyluso’n ddwyieithog ond trwy drawsnewid hyfforddiant yn brofiad dysgu pleserus. Mae Sarah wrth ei bodd â'r her o greu hyfforddiant arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ymateb yr unigolion ac i'r busnes.

Caiff Sarah ei disgrifio’n aml yn berson pefriog a deinamig – mae hi’n caru bywyd ac yn credu mewn gwneud y gorau o bob dydd. Mae’n sylfaenydd ac arweinydd côr merched roc a phop ‘Y Phil Harmonics’ a thros y pum mlynedd diwethaf maent wedi perfformio ledled y DU ac wedi codi miloedd o bunnoedd i amrywiol elusennau. Mae Sarah yn byw gyda'i g?r a dwy gath ac mae ganddi ddau o blant, sydd ill dau wedi gadael y nyth. Pan fydd hi'n cael rhywfaint o amser hamdden mae Sarah yn mwynhau garddio, cerdded a phobi.

David

Ymunodd David â thîm Sglein yn dilyn 37 mlynedd ym myd gwasanaethau ariannol lle roedd e'n arwain timau o hyd at 300 o gydweithwyr ar draws nifer o safleoedd trwy Gymru a Lloegr. Mae Datblygu Pobl wastad wedi bod yn rhan annatod o'i arddull arwain wrth greu timau llwyddiannus, uchel eu perfformiad. Mae David yn mwynhau defnyddio ei sgiliau a'i brofiad coetsio gydag unigolion a grwpiau i'w galluogi i fod ar eu gorau.

Mae David yn siaradwr Cymraeg rhugl a phan nad yw'n gweithio mae wrth ei fodd yn chwarae golff, yn beicio ar hyd a lled Sir Gâr neu'n dysgu Sbaeneg.

 

Glenda

Mae Glenda yn Hwylusydd profiadol ac yn gweld ei hun fel galluogwr - mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda phobl o bob diddordeb a chefndir gwahanol. Dechreuodd ei gyrfa broffesiynol ar ôl iddi adael byd academaidd llawysgrifau canoloesol i gynhyrchu opera sebon hiraf y BBC, ‘Pobol y Cwm’ (hi oedd y cynhyrchydd benywaidd cyntaf a’r ifancaf), gan ennill Gwobr Arbennig BAFTA Cymru ym 1996.

Mae Glenda yn siaradwr Cymraeg balch, yn aelod o Orsedd Cymru, ac wrth ei bodd yn defnyddio ei sgiliau dwyieithog i hyrwyddo a datblygu Cymru a'i phobl, sydd wedi cynnwys gwaith llysgenhadol ar gyfer Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn Tokyo.

Mae ei phrif hobïau yn cynnwys cerddoriaeth a chwaraeon ac mae hi wedi ennill clod ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur. Mae Glenda yn briod ac mae ganddi ddau o blant sydd wedi tyfu ac sydd bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae hi hefyd yn ymddiriedolwr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac yn gadeirydd Cronfa Goffa Ryan Davies.

Ar hyn o bryd mae Glenda yn ei blwyddyn olaf fel ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru ar ôl cyfnod o 8 mlynedd, ac mae'n cadeirio Cronfa Goffa Ryan Davies, gan gefnogi artistiaid ifanc sy'n dod i'r amlwg. Mae hefyd wedi gweithio ar Fwrdd Jukebox Collective, S4C, BAFTA Cymru (yn Gadeirydd) a BAFTA UK.

Mae Glenda’n byw ymrwymiad Sglein i safonau uchel, ei agwedd gadarnhaol, ei ddwyieithrwydd a’i hwyl. Beth sy'n gwneud Glenda yn Sgleiner? Ei hawydd a'i mwynhad wrth wneud i bobl ddisgleirio.

 

Mark

Dechreuodd Mark ei yrfa gorfforaethol yn y diwydiant awyrennau, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth, a chafodd ei ddyrchafu'n gyflym i rolau arwain uwch, lle roedd yn gyfrifol am weithredu ac asesu strategaethau allweddol adeiladu tîm, rheoli ac arwain.

Mae'n ddylunydd, hwylusydd a hyfforddwr rhaglenni hyfforddi ac yn ddeinamig, yn dal diddordeb ac yn emosiynol ddeallus. Mae’n therapydd cyflenwol cymwys ac yn athro therapïau, gyda hanes o lwyddiant ym maes Lles a Chadernid, Rheoli Egni, Ymwybyddiaeth Ofalgar a Datblygiad Personol. Mae'n gweithio gydag unigolion a sefydliadau i wneud y mwyaf o botensial ar gyfer cynhyrchiant personol a busnes.

Yn 2008, aeth Mark i Brifysgol Harvard i wneud hyfforddiant clinigol mewn ‘Meddygaeth Meddwl a Chorff’, ac erbyn hyn mae'n gweithio gyda chleientiaid i'w dysgu sut i ddefnyddio technegau syml, effeithiol sydd wedi’u dilysu’n wyddonol i gynyddu eu Lles a'u Cadernid.

Nia

Gyda phrofiad helaeth ym maes Adnoddau Dynol wedi gyrfa lwyddiannus yn y sectorau manwerthu a gwasanaethau ariannol, mae Nia bellach yn canolbwyntio ar ddysgu a datblygu ar ei liwt ei hun o fewn y sectorau preifat a chyhoeddus. Yr hyn sy’n ei neilltuo hi’n hyfforddwr proffesiynol yw ei gallu i dynnu ar ei phrofiad i gynorthwyo eraill i fod yn fwy effeithiol yn y gweithle ac i wireddu eu dyheadau gyrfaol. Mae gan Nia radd meistri mewn Rheolaeth Adnoddau Dynol ac mae hi’n Gymar Siartredig o’r CIPD. Derbyniodd hyfforddiant fel aseswr, hyfforddwraig a mentor ac mae ganddi gymhwyster fel cyfryngwr yn y gweithle. Mae Nia’n rhugl yn y Gymraeg ac yn gyfforddus yn gweithio’n uniaith Gymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog.

Dywed Nia “Roedd dod i gysylltiad efo Sglein yn gyfle heb ei ail gan bod fy nghefndir a’m profiad yn gweddu’n union i’w gweithgareddau a’u gweledigaeth. Yn arbennig felly, mae’r dyhead i weld mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn y gweithle trwy arddangos mai cyfle nid llyffethair fyddai hynny. Mae brwdfrydedd a phroffesiynoldeb yn treiddio trwy holl weithgareddau’r cwmni a ‘sglein’ yn goron ar y cyfan.”

Phil

Mae Phil yn Hwylusydd hyfforddiant a digwyddiadau brwdfrydig a chadarnhaol. Mae wedi treulio 18 mlynedd yn y diwydiant Dysgu a Datblygu yn datblygu ystod eang o brofiad ac wedi gweithio gyda chynulleidfaoedd ar sawl lefel wahanol.

Mae’n gyflwynydd hynod hyblyg sy'n gallu teilwra ei arddull gyflwyno i weddu i'r sefyllfa, y gynulleidfa ac, yn hanfodol, i'r canlyniadau sy'n ofynnol. Mae'n dangos ymwybyddiaeth ddiwylliannol wrth hwyluso rhaglenni mewn sawl rhanbarth ledled y DU yn ogystal â rhaglenni i gynulleidfaoedd cenedligrwydd cymysg ledled Ewrop.

Mae Phil wedi astudio i fod yn Uwch-ymarferydd NLP ac mae'n defnyddio hyn yn ei holl hwyluso a choetsio 1-2-1 i sicrhau'r effaith a'r perfformiad mwyaf posibl. Mae ganddo chwilfrydedd naturiol ym mhopeth y mae'n ei wneud sy'n aml yn helpu pobl i gwestiynu eu meddwl eu hunain a datblygu barn newydd.

Pan nad yw'n gweithio, gellir dod o hyd i Phil gartref gyda'i deulu, neu’n coginio ac yn croesawu ffrindiau. Mae'n dwlu ar chwaraeon ac mae’n gapten 3ydd XI ei glwb criced lleol ac yn chwarae pêl-droed ddwywaith yr wythnos. Mae Phil hefyd yn gwirfoddoli yn nhîm partneriaethau busnes Oxfam GB ac mae'n ymddiriedolwr elusen sy'n helpu menywod a phlant yn slymiau Kampala.
  

Sam

Mae Sam yn arbenigo mewn dysgu, hwyluso a llesiant ac mae'n angerddol am helpu pobl i ddatblygu. Mae'n cyfuno'i sgiliau coetsio gyda chreadigrwydd er mwyn dylunio ac hwyluso rhaglenni a phrofiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb sy'n effeithiol ac sy'n ysgogi. Mae hi hefyd yn hyfforddi a choetsio darpar hwyluswyr i gyrraedd eu potensial. Mae gan Sam dros 25 mlynedd o brofiad, gan ddechrau yn marchnata nwyddau traul, yna'n arbenigwraig dysgu a datblygu a bellach yn ymgynghorydd, yn coetsio ac yn datblygu pobl a'u llesiant.

Mae'n ymfalchïo mewn arwain unigolion a thimau mewn ystod o sesiynau llesiant, gan gefnogi perfformiad uchel iach trwy'r Meddwl, y Corff, y Galon a Phwrpas. Mae ei gwerthoedd yn cynnwys Meithrin twf a llesiant, Creadigrwydd feddylgar, Cryfder graslon a Dysgu bob dydd a'i chryfderau yw Gwneud y Gorau (Maximiser), Cyfrannu (Input), Empathi ac Ymdeimlo (Relator).

Mae Sam yn athrawes Pilates gymwys, yn fam i ddau o blant yn eu harddegau ac mae hi wastad yn gwneud amser ar gyfer y teulu, ffrindiau, ioga, awyr iach a bod yn ddiolchgar.