Newyddion a Diweddariadau

Ebrill 2021 - Blwyddyn o Newidiadau a Heriau

Pwy fyddai wedi meddwl 12 mis yn ôl y byddem ni fan hyn heddiw? Roedd tîm y Sgleiners yn hapus braf yn teithio ar hyd a lled Cymru a’r DU, yn cysylltu a chydweithio gyda chynulleidfaoedd byw a’n cynnal sesiynau’n llawn hwyl, sglein a rhyngweithio. Roedd gweld wynebau’n gwenu, sgwrsio a chael adborth yn dilyn sesiwn yn rhan o’r gwaith ac egwyl paned yn gyfle i ddod i adnabod ein gilydd yn well fyth ac roeddem ni’n datblygu perthynas wyneb i wyneb – yn gynnes a chyfeillgar.

Yna mwya sydyn daeth y pandemig ym mis Mawrth ac aeth dyddiadur oedd yn llawn dop â blwyddyn o waith yn her newydd. Drannoeth, fe benderfynom ni bod hyn yn gyfle newydd i edrych ar ein gwaith mewn ffordd cwbwl wahanol ac ar ôl chwe wythnos o lafurio, dysgu’r dechnoleg newydd, siarad â’n cleientiaid, aethom ni o Sglein i Sglein Ar-lein!

Fel Sglein Ar-lein, fe weithion ni gyda’n gilydd yn dîm, gan dreialu beth oedd yn gweithio’n dda ac asesu beth fyddai’n ‘well fyth’ – mi wnaethom ni chwerthin… lot fawr. Mi weithion ni i drosglwyddo’r un egni ar y sgrîn ac yn hytrach na gweld y sgrîn fel rhwystr – daeth yn ffrind gorau a’n ased fwyaf ni. Y peth pwysicaf i ni oedd bod yn NI’N HUNAIN a defnyddio’r dechnoleg wych (gan dderbyn y bydd yna ambell i her!) er mwyn parhau i hwyluso sesiynau dysgu trwy brofiad o ansawdd uchel. O’r cychwyn, y penderfyniad oedd creu sesiynau byrrach sy’n golygu nad yw pobl o flaen y sgrîn am yn hirach na sydd angen iddyn nhw fod ac mae’n rhoi amser iddyn nhw roi cynnig ar bethau rhwng sesiynau cyn dod nôl a rhannu eu profiadau gyda ni. Ry’n ni wedi gweld bod rhedeg sesiynau a rhaglenni byrion yn galluogi pobl i wneud amser ar gyfer datblygu eu hunain ac ry’n ni wedi derbyn adborth gwych am ein adnoddau Sbarc Sglein a’n Taflenni Tips sy’n cael eu hanfon at bobl er mwyn ysgogi ac ychwanegu at y dysgu. Ry’n ni hefyd wedi gweithio gyda sawl mudiad a tîm yn cydlynu a hwyluso cyfarfodydd a chynadleddau, gan eto feddwl yn wahanol er mwyn gwneud pob un yn brofiad deniadol i bawb.

Ydi hi wedi bod yn gyfnod cynhyrfus? Do

Ydyw e wedi creu cyfleoedd cyffrous a ffyrdd newydd o weithio? Do

Ydyw e wedi newid sut ydym ni’n hwyluso hyfforddiant a digwyddiadau? Ydi

Dewch i Sgleinio Ar-lein gyda ni i gael gweld beth allwn ni ei wneud gyda’n gilydd :) – Mae’n Sgleinio bob tro, ond hefyd yn wahanol :)