Geirda
Roedd y gefnogaeth gan Sglein yn anhygoel, gan ein helpu ni i gynnal digwyddiad proffesiynol wedi’i drefnu’n dda ac heb y straen arferol a’r anawsterau technolegol. Diolch am eich cefnogaeth broffesiynol a chyfeillgar iawn wnaeth wir helpu i osod y naws ac am eich holl gefnogaeth gyda’r paratoadau ac yn ystod y digwyddiad.
Roedd hi’n amlwg o’r cyfarfodydd cyntaf fod Sglein yn deall ein anghenion ac roedden nhw’n greadigol iawn wrth helpu i roi rhaglen at ei gilydd ar gyfer y diwrnod oedd yn cwrdd â’r teitl y cytunwyd arno. Roeddem ni eisiau ‘ysbrydoli’ a chafodd hyn ei gyflawni. Roedd awyrgylch y gynhadledd yn gosod y llwyfan ar gyfer digwyddiad hynod broffesiynol – ac roedd y sylw at y manylion yn berffaith. Diolch - gosododd hyn y safon priodol ac roedd yn tanlinellu’r ffaith fod y digwyddiad cyfan ‘ychydig yn arbennig’!
Gwnaeth defnyddio’r Artist Graffeg y digwyddiad yn un gwirioneddol ysbrydoledig. Roedd hyn yn amlwg o nifer y mynychwyr oedd dal yno wedi i’r digwyddiad orffen, yn trafod mewn grwpiau, yn tynnu lluniau o’r posteri ac yn ‘rhannu barn’.
Roedd y sesiwn ganu yn llwyddiant ysgubol - roeddem ni eisiau ‘codi’r’ mynychwyr – a chael tipyn o frwdfrydedd ar gyfer y gweithdai oedd i ddilyn, a wel wir, am lwyddiant - eto, ysbrydoledig go iawn. Yn syml iawn, dwi ddim yn teimlo fod ‘diolch’ yn ddigon! Fe wnaethoch chi’n helpu ni i gyflawni mwy na fyddem ni wedi gallu’i wneud ar ein pennau ein hunain – byddem ni wedi cael ‘yr un hen beth…’ Llawer o ddiolch unwaith eto!
Cyflwynodd Huw hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith i’n staff rheng flaen gyda sglein a graen. Yn dilyn yr hyfforddiant, roedd pawb yn teimlo’n hyderus, yn abl ac wedi’u hysbrydoli i ddefnyddio ymadroddion a chyfarchion Cymraeg. Bellach, rydym ni’n mwynhau defnyddio Cymraeg yn y gwaith ac mae’n cwsmeriaid ni’n dwli arno fe! Diolch Huw.
Arddull hamddenol ac anffurfiol ond un wnaeth wir lwyddo i gyfleu'r neges.
Roedd yn sesiwn hyfforddi ryngweithiol a chadarnhaol iawn, bron wedi'i chynnal fel trafodaeth ryngweithiol a'r arddull yma wnaeth y sesiwn gyfan yn gwbl fuddiol. Ar ddiwedd yr hyfforddiant, gadawodd pawb gyda brwdfrydedd cadarnhaol am bwysigrwydd y Gymraeg yng ngwaith dyddiol Cymdeithas Dai yng Nghymru.
Gweithiodd Hugh James gyda Sglein ar ddigwyddiad er mwyn ennyn diddordeb staff, cysylltiadau busnes a darpar gleientiaid. Fe wnaethon nhw awgrymu syniad ar gyfer digwyddiad aeth tu hwnt i’n anghenion a’n disgwyliadau ni, tra’n creu cyffro gwirioneddol ymysg y gynulleidfa. Mae Sglein yn hynod greadigol, trwyadl a phroffesiynol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw ar ddigwyddiadau’n y dyfodol.
Daeth Sglein i ddigwyddiad wnaethom ni ei gynnal er mwyn siarad ag Ymddiriedolwyr o swyddfeydd Cyngor Ar Bopeth ar hyd a lled Cymru. Roedd cyflwyniad Huw yn addysgiadol tu hwnt ac roedd yr ymateb iddo’n wych; cafodd y mynychwyr ysbrydoliaeth a hyder i adrodd yr hyn oedden nhw wedi’i glywed a’i ddysgu nôl i’w Byrddau Ymddiriedolwyr. Rydym ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Sglein mewn digwyddiadau eraill yn y dyfodol agos.
Mae Sglein wedi darparu atebion dysgu a datblygu i Lywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn. Dros y 12 mis diwethaf, mae Sglein wedi hwyluso dros 120 o sesiynau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein o gwrs Cynefino ar gyfer aelodau staff newydd i hyfforddiant datblygiad personol wedi’i deilwra ar gyfer timau penodol a hyfforddiant rheolaeth i arweinwyr uwch.
Mae cyfraniad Sglein i lwyddiant Canmol: Gwobrau Marchnata Cymru yn enfawr. Mae Huw a Sarah yn fanwl iawn, yn drefnus ac yn bleser i gydweithio â nhw. Maent yn llawn syniadau, nid ydynt yn ofni beirniadu a phrocio pe bai angen, ond yn ddieithriad mae eu llygaid ar y nod, sef anghenion y cwsmer, boed trefnydd yr achlysur neu’r rhai sy’n mynychu’r achlysur. Maent yn gwrtais ond yn gadarn wrth negodi â chyflenwyr. Dw i hefyd wedi eu disgrifio fel ‘yswiriant’ – maent yn y cefndir yn barod i ddelio ag unrhyw ddigwyddiad annisgwyl sydd yn gysur enfawr i drefnydd yr achlysur. Os gallaf gymysgu ymadroddion, maent yn bâr diogel o ddwylo, â dannedd.
Roedd y cyflwyno’n ardderchog! Mae’n bwnc a allai fod wedi bod yn ddim ond theori/deddfwriaeth, yn wleidyddol gywir ac yn procio bys a braidd yn drwm, ond gwnaeth yr arddull sgyrsiol o gyflwyno’r sesiwn ei wneud yn bopeth ond hynny. Roedd yn rhyngweithiol iawn yn hytrach na dim ond ‘dweud’, felly roedd hi’n hawdd canolbwyntio a chadw diddordeb yn y cynnwys. Roedd Huw yn gyflwynydd ardderchog wir.
Mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno mewn ‘modd unigryw a grymus’ ac mae arddull cyflwyno Huw yn ychwanegu llawer at hyn ac at fwynhad cyffredinol y cwrs. Er gwaethaf fy amheuon cychwynnol, roedd yn llawn gwybodaeth, yn werth chweil ac yn ddifyr.
Cafodd Sglein ei argymell gan gydweithiwr ac roedd hi’n amlwg o’n cyfarfod cyntaf ni fod ganddyn nhw’r egni, y syniadau a’r proffesiynoldeb i sicrhau y byddai ein digwyddiad yn llwyddiant. Unwaith yr oeddem ni wedi cadarnhau ein rhaglen a’r siaradwyr, gwnaeth Sglein bopeth arall fwy neu lai gan greu digwyddiad slic a phroffesiynol. Llwyddodd Huw oedd yn MC i greu’r cydbwysedd perffaith rhwng hiwmor a ffocws gan drawsnewid y ddwy sesiwn hanner-diwrnod yn brofiad caboledig a phleserus i bawb. Cawsom ni adborth hynod gadarnhaol gan y gynulleidfa. Mi fyddwn ni’n sicr yn gweithio gyda Sglein ar unrhyw ddigwyddiadau’n y dyfodol ac ni fyddwn i’n oedi o gwbwl cyn argymell eu gwasanaethau nhw i bobl eraill.