Y Cwmni
Mae Sglein yn bodoli er mwyn eich helpu chi a’ch staff i roi Sglein ar eich gwaith chi. Gallwn ni eich helpu chi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch busnes, i’ch staff ac i’ch cwsmeriaid chi.
Mae gyda ni dros 15 mlynedd o brofiad ym maes Hyfforddi ac Ymgynghori ac ry’n ni am rannu’n angerdd a’n brwdfrydedd ni am ddysgu gyda chi a’ch pobl.
Ry’n ni’n cynnig amrywiaeth o brofiadau dysgu o sesiynau blasu byr i raglenni hyfforddi hirach.
Mae Sglein yn hwyluso hyfforddiant yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog ar-lein, yn eich lleoliad chi neu ble bynnag sy’n gweithio orau i chi.
Gall Sglein hefyd eich cefnogi i gynhyrchu a dylunio digwyddiadau ar-lein – o syniadau creadigol, darparu MC dwyieithog, cymorth technegol i sicrhau bod y digwyddiad yn rhedeg mor esmwyth â phosibl, i ddarparu gwasanaeth cydlynu llawn. Byddwn yn gweithio gyda chi i greu a darparu digwyddiad rhyngweithiol sy’n cadw sylw pobl ac yn rhoi'r profiad gorau posibl i'ch cynulleidfa.