Hyfforddiant
Mae’n hyfforddiant ni’n gwneud i bobl feddwl yn wahanol... a phan mae pobl yn meddwl yn wahanol, maen nhw’n gweithio’n wahanol.

Mae gyda ni dros 15 mlynedd o brofiad ym maes Hyfforddi ac Ymgynghori ac ry’n ni am rannu’n angerdd a’n brwdfrydedd ni am ddysgu gyda chi a’ch pobl. Ry’n ni’n gwneud pethau’n wahanol, gan gadw llygad am syniadau a thechnegau newydd a’u plethu nhw i mewn i’n gwaith. Mae hiwmor, meddwl yn greadigol ac arloesedd wrth wraidd ein gwaith a’n ffordd ni o weithio. Ry’n ni’n credu mewn bod ar eich gorau yn y gwaith a bod ysgogi, cynllunio, cadernid ac agwedd gadarnhaol yn gallu creu newid a helpu pobl i gyflawni.
Ry’n ni’n cydweithio gyda’n cleientiaid ar sail partneriaeth er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynllunio a chyflwyno’r hyn maent ei angen. Ry’n ni’n sicrhau ansawdd o’r camau cyntaf, hyd at ddylunio deunyddiau, hyrwyddo cyrsiau, cyflwyno ac adborth.
Gallwn ni eich helpu chi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.