Rheoli & Arwain

Mae busnesau sydd ag arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol yn perfformio’n well. Gall Sglein helpu i ddatblygu eich arweinwyr fel bod ganddyn nhw nid yn unig sgiliau rheoli effeithiol ond hefyd agwedd sy’n gallu ysbrydoli a chymell tîm.

P’un a oes gennych chi reolwyr newydd, rheolwyr sydd â thîm gwasgaredig neu reolwyr profiadol, byddwn yn gweithio gyda nhw er mwyn eu galluogi i ddatblygu timau sy’n gynhyrchiol, cymryd rhan ac sy’n uchel eu perfformiad. 

Mae gan dîm Sglein brofiad helaeth o weithio gydag amrywiaeth eang o dimau ar draws y sectorau. Gallwn ni eich helpu chi i gael y mwyaf allan o unigolion ac o’r tîm yn ei gyfanrwydd. 

Gallwn ni deilwra hyfforddiant ar eich cyfer chi yn y meysydd canlynol:

  • Adeiladu a datblygu tîm sy’n cyflawni
  • Rheoli timau sydd ar wasgar
  • Ymateb i newid - diogelu’ch tîm at y dyfodol
  • Cyfathrebu effeithiol
  • Cadernid personol a chreu diwylliant gwaith cadarnhaol a iach
  • Gwneud argraff wrth gyflwyno
  • Dylanwadu a Pherswadio
  • Defnyddio amser yn effeithiol
 

Dyma sampl o adborth diweddar am rai o’n sesiynau:

    • Hoff iawn o'r cydbwysedd rhwng yr ymarferol a’r theori. Naws wych, fe wnaethoch chi i fi deimlo bod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi. Roedd y strwythur yn wych, gyda digon o egwyl er mwyn treulio'r wybodaeth
    • Wedi mwynhau'n fawr - roedd yn teimlo fel cael fy ymestyn mewn ffordd dda. Dysgu â ffocws da ac wedi mwynhau bod yn rhan o’r grŵp.
    • Diolch - mae llawer o sgiliau y gallaf eu rhoi ar waith a'u defnyddio yn fy rôl
    • Roedd yn ardderchog. Byddaf yn defnyddio ac yn rhannu'r modelau gyda'r tîm a'm cydweithwyr
    • Wedi mwynhau'r sesiwn yn fawr. Roedd y ffocws ar ddull ymarferol yn ddefnyddiol iawn. 

 

Sglein_Characters_Table_2.png