Gwasanaeth Cwsmer

 

small_croeso.jpg

Beth yw’r profiad cwsmer gorau ydych chi wedi ei gael yn ddiweddar? Wnaeth hi gymryd sbel i chi feddwl am enghraifft? Ai gwasanaeth difater, cyffredin ydyn ni’n ei ddisgwyl bellach? Beth am y gwasanaeth cwsmer o fewn eich busnes? Ydyw’r holl sylw’n cael ei roi ar ofalu am gwsmeriaid allanol neu ydyw eich staff chi’n gweithredu’r un safonau wrth ddelio â chydweithwyr?

Gall darparu profiadau gwasanaeth cwsmer gwych a chofiadwy eich gosod chi ben ac ysgwydd uwch y gweddill yn yr amgylchedd fusnes gystadleuol sydd ohoni. Fe wnawn ni weithio gyda’ch pobl chi er mwyn Sgleinio’r gwasanaeth maen nhw’n ei gynnig fel eich bod chi’n sefyll ben ac ysgwydd uwch y gystadleuaeth.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Delio â Sefyllfaoedd Anodd a Thrafod Cwynion 
  • Gwella Cyfathrebu, Empathi a Sgiliau Cadernid er mwyn Gwella Profiad y Cwsmer 
  • Gofal Cwsmer a Sgiliau Cysylltiadau Cwsmeriaid Pum Seren 
  • Yr Iaith Gymraeg a Gwasanaeth Cwsmer 
    • Mae Sglein yn arwain y ffordd wrth gynorthwyo sefydliadau i weld a sylweddoli manteision defnyddio’r Gymraeg mewn busnes. Gallwn ni helpu eich staff chi i ddeall pam y gall ychydig Gymraeg wneud gwahaniaeth sylweddol i’ch cwsmeriaid chi ac i’ch delwedd. Bydd gweithio’n ddwyieithog yn cyfoethogi’r gwasanaeth ydych chi’n ei ddarparu ac yn helpu i gryfhau eich brand yng Nghymru.

Dyma sampl o adborth diweddar:

    • Diolch am y sesiwn ddysgu orau ges i ers amser maith.  Rwyf wedi elwa llawer o'r cwrs ac mae wedi rhoi digon imi feddwl amdano
    • Sesiwn ardderchog - llawn syniadau ac esboniadau gwych - diolch yn fawr
    • Sesiwn ardderchog - addysgiadol iawn a gwych. Wedi dysgu llawer ac rwy’n mynd â chymaint gyda fi o’r sesiwn!
    • Roedd y cynnwys a'r cyflwyno i’r dim - diolch
    • Diolch yn fawr iawn - llawer o awgrymiadau ymarferol i’w rhoi ar waith

Cysylltwch â ni »