Cyfathrebu a Chydweithio
Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol er mwyn cynnal perthnasau gweithio cadarn o fewn eich sefydliad a gyda’ch cwsmeriaid chi.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Cynnal Sgyrsiau Gonest
- Sgiliau Cyflwyno a Hwyluso
- Sgiliau Cyfweld
- Deall eich Effaith Personol
- Gweithio’n Dîm Effeithiol ac Effeithlon
- Sgiliau Ysgrifennu

Pa mor effeithiol yw eich Sgiliau Gwrando?
Mae gwrando’n un o'r sgiliau cyfathrebu pwysicaf. Mae pa mor dda rydym yn gwrando yn cael effaith sylweddol ar ein perthynas ag eraill a'n heffeithiolrwydd yn y gwaith. Yn y byd prysur sydd ohoni, mae’n sylw ni’n cael ei dynnu’n aml pan fydd pobl yn siarad â ni ac nid ydym bob amser yn talu sylw’n llawn.
Gwyliwch y clip ffilm byr hwn i weld pa mor dda rydych chi'n gwrando – bydd angen papur a phensil!
Dyma sampl o adborth diweddar am rai o’n sesiynau:
Sgyrsiau Gonest
- Cwrs defnyddiol iawn, awgrymiadau gwych y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith - gwerthfawr wrth chwarae rhan yn rhoi’r hyfforddiant ar waith hefyd
- Roedd llawer mwy o wybodaeth a phethau na fyddwn i wedi meddwl amdanyn nhw! Wedi cael strwythur da iawn a fydd yn ddefnyddiol i gyfeirio ato yn y dyfodol
- Falch fy mod wedi mynychu. Wedi magu rhywfaint o hyder. Roedd yr ystafelloedd trafod yn dda iawn ac wedi gweithio'n dda
- Gwybodaeth ddefnyddiol iawn, yn bendant am ddefnyddio'r awgrymiadau rwyf wedi'u dysgu heddiw
- Llawer o wybodaeth ddefnyddiol a chefnogol. Wedi magu’r hyder i gael sgyrsiau
Sgiliau Hwyluso
- Wedi mwynhau pob sesiwn yn fawr, mae hon wedi bod yn ffordd wych o fyfyrio ar fy sgiliau, neu ddiffyg sgiliau, ac mae gen i gynllun cadarn wrth symud ymlaen i helpu i weithredu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu hyd yn hyn
- Roedd yn rhaglen anhygoel a byddwn yn annog pawb rwy'n ei adnabod i gymryd rhan, p'un a ydynt yn hyderus ai peidio; mae'n ffordd hwyliog o ddysgu ac mae wedi gwneud i mi deimlo'n llawer mwy hyderus ynof fi fy hun. Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at y sesiynau a rhoddodd yr hwylusydd gefnogaeth wych, roedd yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n gallu bod yn fi fy hun. Cefais fy ngwthio y tu allan i'm ffiniau, ac er nad oeddwn yn disgwyl gwneud, mi wnes i fwynhau’n fawr
Sgiliau Ysgrifennu
- Mi wnes i fwynhau’r bore yma'n fawr. Addysgiadol iawn ac yn rhywbeth y gallaf ei ddefnyddio yn fy mywyd gwaith ac yn y cartref
- Wedi mwynhau'r sesiwn yn fawr - roedd yn gymysgedd da o wybodaeth ac yn rhyngweithiol ac wedi'i chyflwyno'n dda iawn
- Sesiwn gadarnhaol iawn, wedi dysgu llawer am bethau na fyddwn wedi'u hystyried ymlaen llaw. Sesiwn 3 awr ond heb deimlo mor hir â hynny – sydd wastad yn beth da yn fy marn i