Recriwtio Mwy Diogel

Mae gwneud y penderfyniadau recriwtio cywir ymhlith y dewisiadau pwysciaf y gall unrhyw sefydliad eu gwneud. 

Os ydych chi’n recriwtio staff neu wirfoddolwyr i weithio gyda phlant neu bobl ifanc, mae’n hanfodol eich bod chi’n creu diwylliant o recriwtio mwy diogel, ac yn rhan o hynny, eich bod chi’n mabwysiadu gweithdrefnau recriwtio sy’n helpu i rwystro, gwrthod neu adnabod unigolion allai wneud niwed i blant neu bobl ifanc.

Gall Sglein eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a chynyddu eich hyder i recriwtio’r unigolion cywir a chynnal diwylliant mwy diogel o wyliadwraeth parhaus.

Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar:

  • Recriwtio Mwy Diogel a chyd-destun ehangach diogelu
  • Ystadegau am gam-drin a phroffeil unigolion sy’n cam-drin
  • Sut mae unigolion sy’n cam-drin yn gweithredu o fewn sefydliadau
  • Nodweddion proses Recriwtio Mwy Diogel a chynllunio proses Recriwtio Mwy Diogel
  • Gwneud y penderfyniad cywir: cyfweld a dethol
  • Defnyddio gwybodaeth cofnodion troseddol
  • Gosod safonau ymddygiad derbyniol & chynnal diwylliant o wyliadwraeth parhaus

Cyflwynir y gweithdy hwn fel sesiwn 1 diwrnod wyneb yn wyneb neu 2 x sesiwn hanner diwrnod ar-lein.

Mae Sglein wedi'i achredu i ddarparu'r hyfforddiant gan y Consortiwm Recriwtio Mwy Diogel a gallwn ei gyflwyno'n Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyeithog.

Mae’r gweithdy’n rhyngweithiol ac yn rhoi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r hyder i unigolion allu gwneud gwell penderfyniadau.  Yn dilyn asesiad byr, bydd unigolion yn derbyn tystysgrif cwblhau gaiff ei gydnabod ar draws y DU.

Gallwn drefnu'r hyfforddiant i fod yn gyfleus i chi o ran dyddiad a lleoliad - cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.