Cydraddoldeb & Amrywiaeth
Mae Cydraddoldeb & Amrywiaeth yn arf busnes gwerthfawr gaiff ei anwybyddu neu ei esgeuluso’n aml. Gall gyfoethogi a chryfhau delwedd eich sefydliad a chyfrannu’n sylweddol tuag at y ffordd mae eich staff yn teimlo am weithio i chi a’r ffordd mae eich cwsmeriaid a’ch darpar gwsmeriaid yn teimlo am ddelio â chi. Gall hefyd fod yn angenrheidiol wrth geisio am gytundebau gwaith a gall help i roi mantais i chi dros eich cystadleuaeth.
Bydd Sglein yn gweithio gyda’ch busnes chi i sicrhau fod eich staff yn gwerthfawrogi Cydraddoldeb & Amrywiaeth ac yn deall eu rôl i roi’r egwyddorion ac unrhyw bolisïau sydd gennych chi ar waith.
Gallwn ni egluro a chyflwyno’r maes hwn, sydd yn gallu bod yn gymhleth weithiau, fel bod eich staff chi’n teimlo fod ganddyn nhw’r gallu a’r awdurdod i chwarae rhan yn sicrhau fod eich sefydliad chi a phawb sy’n dod i gyswllt ag e yn elwa o Gydraddoldeb & Amrywiaeth.